(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Staff YGC yn cyflwyno arian i 3 Elusen gwahanol – Gorffennaf 2022

Barry Davies – Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis
“Yn ddiweddar fe gynhaliodd Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) sef adran oddi fewn Cyngor Gwynedd, weithgaredd noddedig i godi arian i dri elusen lleol ble roedd un o’r elusennau yn Dîm Achub Mynydd Llanberis.
Roedd hyn er cof am ffrind a chydweithiwr annwyl sef Cefin Edwards. ‘Roedd Cef Ed’s, fel roedd yn cael ei adnabod, yn unigolyn poblogaidd iawn yn ei gymuned, yn y gweithle ac yn y gymuned dringo a mynydda.
Roedd gan Cefin nifer o gyfeilion oddi fewn Tîm Achub Mynydd Llanberis ac roedd pob amser yn gwerthfawrogi gwaith y Tîm .
Ar y 27ain Gorffennaf bu i gynrychiolaeth YGC, a fu yn cynnwys Huw Williams (Pennaeth YGC), Petra Irvine, Siôn Jones a Stephen gyflwyno rhodd sylweddol o £1,952.72 i Tîm Achub Mynydd Llanberis ble roedd yr arian wedi ei godi yn sgil y weithgaredd. Fe gyflwynwyd tystysgrif o ddiolch i holl staff YGC mewn gwerthfawrogiad o’u hymdrechion er cof annwyl am Cef Ed’s.”
Banc Bwyd Arfon
Dim ond nodyn i ddiolch o waelod calon am eich rhodd caredig i Fanc Bwyd Arfon. Yn y dyddiau anodd sydd ohoni, mae’r bwyd yr ydych yn ei roi yn gymorth mewn i bobol leol sy’n wynebu caledi difrifol. Derbyniwch ein diolch diffuant am eich cefnogaeth barhaol.
Climbers Against Cancer
Mae Climbers Against Cancer yn gwerthfawrogi eich rhodd hael er Cof am Cefin Edwards gyda gwerthfawrogiad diffuant.