EIN gWASANAETHAU
Drwy ddarparu gwasanaethau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, rydym yn frwdfrydig am y gwasanaethau rydym yn eu darparu ac yn ymrwymedig i ddarparu’r safon uchaf i’n cleientiaid.


DYLUNIO ISADEILEDD A THRAFNIDIAETH
Dylunio ac Ymgynghoriaeth…
Mae YGC yn cynnig gwasanaethau ymgynghori cynhwysfawr ym meysydd isadeiledd a thrafnidiaeth gan chwarae rhan allweddol yn y sector ers dros 20 mlynedd. Rydym yn mwynhau perthynas waith agos â Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwmnïau Preifat ledled Cymru.
Ers 1996, mae YGC wedi cyflawni gwaith ymgynghorydd dylunio a pheirianneg dibynadwy ar nifer o brosiectau seilwaith a chludiant allweddol.
Rydym yn cynnig ymagwedd amlddisgyblaethol tuag at brosiectau, gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol / arbenigedd o sectorau eraill i sicrhau llwyddiant pob prosiect a ymgymerir ag ef. Gydag adnoddau i gyflawni holl ystod o ddisgyblaethau peirianneg sifil, mae YGC yn darparu ei gwsmeriaid isadeiledd a chludiant gyda phob gwasanaeth y mae arnynt ei angen ar gyfer prosiect llwyddiannus, beth bynnag yw ei faint a’i gymhlethdod.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y sector Isadeiledd a Thrafnidiaeth yn cynnwys:
- Cyflawni Prosiectau Isadeiledd
- Dylunio, Archwilio a Rheoli Pontydd a Strwythurau Cynnal
- Peirianneg Trafnidiaeth
- Peirianneg Dŵr a Dŵr Gwastraff
- Harbyrau a Marinas
- Peirianneg Geotechnegol
- Archwiliadau Diogelwch Ffyrdd
- Asesiadau Effaith Traffig
- Dylunio Marciau Ffordd Ac Arwyddion
- Astudiaethau Gwrthdrawiad
- Arolygon Traffig a Chasglu Data
DYLUNIO ADEILADAU AC AROLYGU EIDDO
Adeiladwyd gyda hyder…
Mae YGC yn darparu ystod o wasanaethau i ddiwallu anghenion cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau ar gyfer yr amgylchedd adeiledig.
Gyda mynediad at ystod eang o adnoddau a phrofiadau, mae ein tîm Penseiri, Peirianwyr Strwythurol, Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol, a Syrfewyr Adeiladu, yn rhoi’r gallu i ni ddarparu gwasanaeth ar gyfer prosiect o bob maint a chymhlethdodau.
Mae gan ein timau’r profiad a’r angerdd i gyflawni a rhannu’r daith gyda’n cleientiaid, gan roi iddynt y lefel o wasanaeth y maent wedi’i ddisgwyl. Rydym yn arwain o gychwyn y prosiect, gan roi gwybodaeth gadarn ar gyfer rheoli gofynion cleientiaid sy’n llifo trwy gylchred bywyd y prosiect i’w drosglwyddo.
Os yn rhaglen waith cymhleth neu brosiect unigol, mae methodoleg YGC yn parhau i fod yr un peth ac mae ein hamcanion yn glir.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y sector Eiddo ac Adeiladu yn cynnwys:
- Dylunio Pensaernïol
- Astudiaethau Dichonoldeb
- Dylunio Mewnol
- Ymgynghorydd Cleient
- Arolygon Mesuredig
- Delweddau 3D A BIM
- Ceisiadau Cynllunio / Adeilad Rhestredig / Rheolaeth Adeiladu
- Arolygu Adeiladau ac Archwiliadau
- Ymgymryd  Rôl Prif Ddylunydd CDM a Dylunydd
- Rheoli Prosiect / Ymgynghorydd Arweiniol / Prif Ddylunydd
- Dylunio Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol
- Datrysiadau Draenio
- Gweinyddiaeth Contractau
- Clerc Gwaith




dŵr ac arfordirol
Annelu’n uchel…
Mae gan YGC dîm o beirianwyr pwrpasol i ddelio â’r bygythiad cynyddol o lifogydd sy’n cael ei achosi gan y cynnydd a ragwelir mewn lefelau môr a dwysedd glaw sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.
Un o brif gyfrifoldebau’r tîm yw ymgymryd â rheoli perygl llifogydd.
Gall Rheoli Perygl Llifogydd gymryd nifer o ffurfiau yn amrywio o adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd i adeiladu gwytnwch trwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Trwy gysylltiadau cyhoeddus a chydweithredu ag awdurdodau rheoli risg eraill, nod YGC yw rheoli’r risg o lifogydd mewn cymunedau ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys cyflawni rôl / gweithredu fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar ran Cynghorau Gwynedd a Môn.
Mae’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer y sector Dŵr a’r Arfordir yn cynnwys:
- Dyluniad Draenio Dŵr Wyneb
- Asesiad Hydrolig o Strwythurau
- Asesiad Hydroleg
- Cyngor Cynllunio ar Risg Llifogydd
- Asesiad Llif Dŵr
- Asesiad Canlyniad Llifogydd
- Modelu Llifogydd
- Dylunio Draenio Priffyrdd
- Arolygon Arfordirol
- Archwiliadau Asedau
- Strategaeth Carthu Harbwr
- Arolwg A Mapio Teledu Cylch Cyfyng
- Cyngor ar Drwyddedu Gweithgareddau Perygl Llifogydd
- Archwiliadau T98
Ymgynghoriaeth amgylcheddol
Mae o yn ein natur…
Mae materion amgylcheddol a chynaliadwyedd yn dylanwadu ar bob math o ddatblygiadau. Mae diogelu, cadwraeth a gwella’r amgylchedd yn hollbwysig ac yn nodweddion allweddol datblygu a gweithredu cynaliadwy. Mae gan ein tîm amgylcheddol brofiad dros 15 mlynedd o ran cynllunio amgylcheddol ar gyfer prosiectau isadeiledd a phrosiectau / asesiadau amgylcheddol annibynnol.
Mae ein gwybodaeth leol a chydweithrediad agos rhwng ein tîm amgylcheddol, ein cleientiaid, ymgynghorwyr amgylcheddol statudol, y timau dylunio a’r contractwyr wedi arwain at brosiectau peirianneg sifil arloesol, cadarn a chynaliadwy ledled Gogledd Cymru.
Rydym yn brofiadol o ran cydlynu timau amlddisgyblaethol yn effeithlon i fynd i’r afael â materion amgylcheddol cymhleth gan ddefnyddio gwybodaeth leol ac ymagwedd tuag at asesu sy’n dylunio, adeiladu a gweithredu cydbwysedd â lliniaru amgylcheddol ymarferol. Mae gan ein tîm o weithwyr proffesiynol alluoedd arbenigol ar gyfer darparu cefnogaeth feirniadol i ddylunwyr, datblygwyr, ymgynghorwyr amgylcheddol statudol a rheoleiddwyr.
Mae ein gwasanaethau Amgylcheddol yn cynnwys:
- Asesiad Effaith Amgylcheddol
- Arolygon Rhywogaeth a Warchodir
- Arfarniad Ecolegol Rhagarweiniol
- Asesiad Effaith Ecolegol
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Clerc Gwaith Amgylcheddol ac Ecolegol
- Cynlluniau Rheoli Cynefinoedd
- Cynlluniau Rheoli Rhywogaethau Ymledol
- Mapio Digidol GIS
- Asesiadau WelTAG
- Asesiad Amgylcheddol Strategol
- Asesiad CEEQUAL
- Cyngor Cynllunio Ecolegol

