(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Paratowyd dyluniad yr adeilad a’r delweddau ar gyfer y ganolfan ymwelwyr gan ein tîm Penseiri sydd wedi’u lleoli yng Nghaernarfon. Mae cydweithio agos rhwng YGC a’r RSPB wedi golygu bod y dyluniad terfynol wedi ymgorffori’r gofynion ar gyfer y ganolfan, gan fod yn ystyriol o’r dirwedd ar yr un pryd. 

Mae erthygl ddiweddar gan yr RSPB ar gyfer yr Holyhead and Anglesey Mail ym mis Rhagfyr 2018 yn rhoi manylion ynghylch y dyluniad a rhai o’r heriau a wynebwyd.

RSPB Ynys Lawd  

Erthygl yr Holyhead and Anglesey Mail 2018  

Gyda gaeaf arall o’n blaenau, heb anghofio’r blynyddoedd blaenorol o dywydd garw a’r dinistr a achoswyd gan stormydd diweddar megis Emma;  Ali ac Eleanor – mae’n deg dweud bod Ynys Lawd wedi dioddef llawer o effeithiau’r tywydd dros y blynyddoedd.  Fodd bynnag, mae penderfyniad diweddar a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn i gymeradwyo ein cais cynllunio ar gyfer dymchwel rhan o adeilad presennol y ganolfan ymwelwyr, ynghyd ag addasiadau ac estyniadau, yn golygu y gallwn o’r diwedd wella ein seilwaith a darparu adeilad gyda chyfleusterau fydd yn gwrthsefyll yr elfennau ac yn sicrhau Canolfan Ymwelwyr y gall trigolion lleol ac ymwelwyr ymfalchïo ynddi. 

Ar ôl bod yn trwsio’r ganolfan ymwelwyr am nifer o flynyddoedd, mae’r cyfleusterau cyfredol i ymwelwyr a staff yn y warchodfa yn prysur ddirywio. Mae’r strwythur deulawr presennol sy’n gartref i swyddfa’r warchodfa, cyfleusterau lles staff a thoiledau cyhoeddus yn y Ganolfan Ymwelwyr bellach wedi cyrraedd diwedd ei oes naturiol.  Nid yw’r adeilad yn addas i’w bwrpas bellach; mae wedi dyddio ac mae dŵr yn gollwng ohono ac mae gwaith trwsio dros dro yn cael ei wneud mewn sawl lle ac mae angen datrysiad hirdymor i hynny. Yn ogystal, ni chafodd yr adeiladau eu hadeiladu gyda’r bwriad o gefnogi nifer yr ymwelwyr sy’n dod i Ynys Lawd erbyn hyn.  Pan adeiladwyd y caffi gwreiddiol, nid oedd cymaint o ymwelwyr yn dod yna ac roedd toiledau cyhoeddus yr awdurdod lleol yn gwasanaethu’r ymwelwyr nad oedd yn mynd i’r caffi.  Nid yw’r toiledau hynny’n bodoli mwyach a’r unig gyfleusterau sydd ar y safle bellach yw’r rhai a ddarperir yng nghanolfan ymwelwyr yr RSPB. O ganlyniad, rydym angen diweddaru’r gwaith trin carthion ar y safle.

Beth fydd y gwaith yn ei olygu?  

Bydd y gwaith yn cynnwys dymchwel rhan o’r strwythur deulawr a rhan o’r strwythur unllawr, a’u cyfnewid am gyfleuster modern pwrpasol fydd yn cael ei insiwleiddio er mwyn ymdrin â’r misoedd oeraf a’r gwyntoedd ar y clogwyni; bydd ffenestri dwbl drwy’r adeilad, a thechnoleg i geisio arbed a thrin dŵr. Bydd y datblygiad 252m2 yn cynnig cyfleusterau llawer gwell i staff a gwirfoddolwyr fel y gallant barhau â’u gwaith o gadw’r warchodfa yn lle arbennig i natur ac ar gyfer y 185,000 o ymwelwyr blynyddol. Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys ardal eistedd ar gyfer y caffi, sy’n cynnig golygfeydd o’r llawr i’r nenfwd drwy’r caffi draw at ogoniant trawiadol Ynys Lawd. Yn ogystal, bydd y caffi’n fwy hygyrch a bydd ar un lefel yn hytrach nag ar wahanol lefelau fel y mae ar hyn o bryd.  Yn ogystal, bydd toiledau newydd i ymwelwyr ac ardal storio ar y llawr daear a byddwn yn amnewid tanc septig presennol â gwaith trin carthion newydd. 

Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd y ganolfan ymwelwyr a’r ardal chwarae i blant ar gau am sawl mis o fis Mawrth i’r Haf 2019. Rydym yn edrych i weld p’un a fydd modd darparu gwasanaeth arlwyo dros dro, ond bydd y maes parcio yn dal i fod ar gael. Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth am amseriad y gwaith, ac am yr effeithiau byrdymor ar ymwelwyr yn ystod y gaeaf, yn yr wythnosau i ddod. 

Faint fydd y gwaith adeiladu yn ei gostio a sut fyddwn ni’n talu amdano?  

Ar hyn o bryd, rydym yn amcangyfrif mai cyfanswm cost y gwaith adeiladu fydd £830,000.  Ar hyn o bryd, mae’r RSPB yn gobeithio cyfrannu £570k o’r swm hwn ac yn obeithiol y bydd yn llwyddo i ddenu grantiau ar gyfer y £260k sy’n weddill. Bydd y swm hwn yn talu am y costau dymchwel, y costau adeiladu, y toiledau newydd, y gwaith trin carthion newydd a’r ffioedd a’r tirfesur proffesiynol.  

Yn yr hinsawdd economaidd anodd presennol – ac yn sgil cymaint o ansicrwydd am gyllid yn y dyfodol – mae cyfraniadau a grantiau yn gostwng, ac mae elusennau megis yr RSPB yn gorfod gwneud dewisiadau anodd ynghylch sut i greu incwm.

Rydym yn hynod ddiolchgar i arianwyr sy’n talu am agweddau o’n gwaith yn Ynys Lawd ac i’n haelodau sy’n ein cefnogi yn ariannol â’u tanysgrifiadau blynyddol. Yr hyn sy’n sicr yw na fyddai modd i’r cyfleuster presennol weithredu fel canolfan ymwelwyr yn Ynys Lawd am lawer hirach, heb fuddsoddiad a gwelliant parhaus.

Mae ein costau rheoli ar y safle yn fwy na £200,000 y flwyddyn. Rydym yn rheoli’r rhostir arfordirol a’r caeau yn sgil eu bywyd gwyllt arbennig, gan gynnwys y frân goesgoch, y pili-pala glesyn serennog a chweinllys Ynys Lawd, blodyn na ellir ei weld yn unman arall yn y byd.  

Wrth gwrs, mae’r caffi a’r siop yn y safle yn gymorth i ddiwallu rhai o’r costau hyn.  Daw llai o ymwelwyr i Ynys Lawd yn ystod y gaeaf, ond rydym wedi ymrwymo i fod ar agor drwy’r flwyddyn. 

Mae’r bywyd gwyllt yn ein cefn gwlad yn parhau i fod dan bwysau sylweddol o nifer gynyddol o fygythiadau. O ganlyniad, mae swm y gwaith y mae’r RSPB a sefydliadau cadwraeth eraill yn gorfod ei wneud, yn cynyddu’n flynyddol.  Mae cost y gwaith hwn yn tyfu bob blwyddyn hefyd.

Rydym yn gwybod fod Ynys Lawd yn fan arbennig iawn i bobl leol, ac i’r twristiaid niferus sy’n ymweld ag Ynys Môn.  Mae cyfleusterau presennol yr RSPB yn darparu cyflogaeth i bobl leol a gwirfoddolwyr sy’n rhannu eu hangerdd â’r ymwelwyr niferus sy’n dod i’r warchodfa.  Mae’n lle poblogaidd sy’n llwyr haeddu gwell cyfleusterau, fel y gellir rhoi bywyd newydd i’r warchodfa enwog hon.