Bu Ysgol Gynradd Pentreuchaf ar y safle presenol ers 1908. Caiff ei mynychu gan oddeutu 110 o ddisgyblion. Cafodd yr Ysgol ei hymestyn i greu dosbarth meithrin/ derbyn yn 2003.
Yn 2008 cafodd yr Ysgol ei hamlygu fel cynllun moderneiddio fel rhan o Grant Gwella Adeiladau Ysgol, Llywodraeth Cymru, gyda chyfraniad gan Adran Addysg Cyngor Gwynedd.
Buddsoddwyd £800,000 i foderneiddio’r Ysgol i gynnwys:
Dymchwel 3 dosbarth parod ac ystafelloedd atodol.
Adeiladu 3 dosbarth newydd, llyfrgell a thoiledau.
Ailwampio’r Neuadd a’r Gegin bresennol.
Storfa newydd i gadw cyfarpar y Neuadd.
Storfa allanol newydd i gadw offer ymarfer allanol.
Gwaith allanol i ehangu iard yr Ysgol ac i wella’r ecoleg i safon BREEAM.
Gosod paneli solar a dalwyr gwynt fel rhan o strategaeth adnewyddadwy.
Gosod ffenestri helaeth i gyfrannu at awyriad naturiol a strategaeth golau dydd.
Gwnaethwyd penderfyniad i gyfuno’r estyniad newydd gyda’r strwythur Fictoraidd presennol trwy ddod a syniadaeth fodern i’r datblygiad newydd. Defnyddwyd dull traddodiadol i adeiladu’r estyniad trwy ddefnyddio blociau i’r muriau i dderbyn gorffeniad allanol o rendrad lliw llyfn, a tho llechi Cymreig i weddu gyda’r adeilad presennol.
Fe ddefnyddiwyd contract traddodiadol JCT gyda’r contractwr Derwen Llyn Cyf. Fe gyfrannodd yr ymgynghorwyr canlynol i’r gwaith: YGC (Penseiri), Advent (Maint Fesurwyr), Davies Partnership (Peirianydd Mecanyddol a Thrydianol), Evans Wolfenden Partnership (Polriannydd Sirwylhurol), Adolladol Cyf (Cyd-gysylltydd COM). Mae’r lliwiau allanol wedi eu dewis yn ofalus i ategu’r adeilad presennol, ond gyda lliwiau llachar i ardaloedd allweddol er mwyn apelio i’r plant.
Mae’r dosbarthiadau newydd hefyd wedi derbyn system taenellu dŵr newydd.
Bu’n rhaid ystyried y rhaglen waith yn ofalus i gynnal lechyd a Diogelwch y staff, disgyblion ac unrhyw ymwelwyr, oherwydd i’r gwaith fynd ymlaen tra oedd yr Ysgol mewn defnydd.
Cwblhawyd y gwaith o fewn amser, cyllideb ac i’r safon ansawdd dymurol. Agorwyd yr estyniad newydd i’r athrawon a disgyblion Mis Hydref 2010.