Ysgol Cae Top, Bangor
Client: | Cyngor Gwynedd |
Contractwr: | Carillion |
Côst y gwaith: | £4m |
Cwblhad y gwaith: | 2009 |



Mae’r ysgol newydd yn ardal Eithinog, Bangor, yn adnodd o’r radd flaenaf ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.
Adeiladu
Cafodd yr ysgol newydd £4 miliwn ei dylunio ar gyfer 210 o ddisgyblion. Mae’r ysgol mewn ardal o bwysigrwydd ecolegol ac mae ei dyluniad yn gydymdeimladol gyda’r amgylchedd o’i chwmpas.
Mae sawl nodwedd adnewyddol ynyr adeilad, gan gynnwys:
Gosodiad cynllun y llawr sy’n gwneud defnydd llawn o adnoddau naturiol, yn enwedig ei siâp ar ffurf L.
Paneli haul i roi rhagor o ddwr poeth ar gyfer twymo.
Pympiau gwres daear i dwymo o dan y lloriau.
Paneli ffotofaltig a melin wynt i gynhyrchu trydan.
Ailgylchu dwr glaw o’r to i olchi toiledau.
Ffenestri mawr i adael goleuni i mewn ac i awyru.
Mae gan yr ysgol fantais hefyd o fod yn hollol hygyrch i bobl gydag anabledd corfforol a gosodwyd ysgeintwyr i ddiogelu’r adeilad rhag tân. Bydd y plant ar eu hennill yn addysgol hefyd drwy wybod faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu bob dydd gan dechnolegau adnewyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r ysgol ar y llawr gwaelod a dim ond yr ystafelloedd cyfri aduron a cherdd sydd ar y llawr cyntaf.
Mae gan yr ysgol glwb ar ôl ysgol sy’n cyfarfod mewn ystafell a fydd yn ystafell gymunedol ar rai adegau o’r dydd.
Mae adnoddau eraill yr ysgol yn cynnwys:
8 ystafell ddosbarth
llyfrgelloedd
mannau adnodau ymarferol
ystafelloedd dillad a newid
prif neuadd gyda stiwdio gweithgaredd,
cegin
ystafelloedd sta
storfeydd a thoiledau
