(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Uwchraddio safleoedd bws Rhwydwaith TrawsCymru

Safle Bws Caernarfon, Bangor a Phwllheli

Bus Stop Bangor
Bus Stop Pwllheli
Mae TrawsCymru yn rhan annatod o rwydwaith bysiau Cymru, gan ddarparu cysylltiadau rhwng trefi a dinasoedd mawr a helpu pobl i gysylltu â chyrchfannau gwaith, addysg, iechyd a hamdden.
Fel rhan o’r Sgôp ar gyfer YGC, cynorthwyodd Tîm Cyflawni Prosiect gyda uwchraddio 61 o lochesi newydd (yng Ngwynedd, Conwy, Wrecsam a Sir Ddinbych), polion fflag newydd, sgriniau RTI, mân waith sifil a gwaith sifil ar raddfa ganolig. Ymgymerodd y Tîm Cyflawni Prosiect â Chynllun Manwl, Rheoli Prosiect a Goruchwylio a Chaffael gwaith yn amrywio o waith ail-wynebu, draenio (yn cydymffurfio â SuDS e.e. gerddi glaw), arwyddion a llinellu, tirlunio, a gwella bioamrywiaeth gyda thoeau gwyrdd.
Fel rhan o’r gwaith uwchraddiwyd tair prif orsaf fysiau yng Ngwynedd gan gynnwys Pwllheli, Bangor a Chaernarfon.
Gwnaed yr holl waith sifil gan gontractwyr lleol megis Cybi Cyf, SJ ac S Williams a TJ Construction.
Darparwyd y llochesi drwy ymgynghorwyr fframwaith TrC.