Mae gwasanaeth bws Sherpa yn teithio o amgylch gwaelod Yr Wyddfa, gan greu cyswllt gwerthfawr rhwng y chwe phrif lwybr i fyny’r mynydd, prif feysydd parcio, pentrefi ac atyniadau’r ardal.
Fel rhan o’r Sgôp ar gyfer YGC, cynorthwyodd Tîm Cyflawni’r Prosiect gyda 10 lloches bwrpasol newydd ar gyfer y llwybr Sherpa. Roedd y gwaith yn cynnwys cysylltu â Pharc Cenedlaethol Eryri a nifer o randdeiliaid eraill.
Gosodwyd llochesi ym Methesda, Llyn Ogwen. Pen Y Gwryd, Waunfawr a Caeathro. Gosodwyd un o’r prif safleoedd yn Llanberis hefyd yn amodol ar nifer o amodau cynllunio.
Ymgymerodd y tîm Cyflawni Prosiect â’r rôl ddylunio fanwl, cyflwyno’r gwaith fesul cam, caffael, rheoli prosiect a goruchwylio.
Roedd yr holl waith sifil yn cael ei wneud gan gontractwr lleol, SJ ac S Williams.