(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cynllun Gwella Trafnidiaeth Pont Briwet (dyluniad amlinellol)

Cleient:Cyngor Gwynedd
Dylunwyr:Tony Gee and Partners / Hewson
Contractwrs:Hochtief UK Ltd.
Dyddiad Cwblhau: Gorffenaf 2015

 

Cydlynodd Tîm Amgylcheddol YGC yr asesiad amgylcheddol i gefnogi’r cais cynllunio i ddisodli’r draphont lôn/reilffordd Gradd II Rhestredig ar draws aber afon Dwyryd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Roedd y strwythur mewn cyflwr gwael a oedd yn peri bygythiad i’r cysylltiadau ffordd a rheilffordd.  Buasai cau’r draphont wedi cael effaith sylweddol ar rwydwaith drafnidiaeth, economi a gallu cyflogaeth y rhanbarth.  Penderfynwyd, felly, disodli’r ddarpariaeth gyfredol, annigonol gyda strwythur cyfoes, diogel a chynaliadwy.  Fe’i hariannwyd gan y Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd, Network Rail, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
O ystyried natur sensitif y safle a’r amgylchedd o’i gwmpas, roedd yn bosib y gallai’r cynllun gael effaith amgylcheddol arwyddocaol.  Ymysg y nodweddion a berodd gryn bryder oedd:
  • ACA Pen Llŷn a’r Sarnau, SoDdGA Morfa Harlech a Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr;
  • Rhywogaethau gwarchodedig gan gynnwys dyfrgwn, adar sy’n gaeafu/magu, pysgod mudol, amffibiaid, ymlusgiaid ac ystlymod;
  • Aber afon Dwyryd;
  • Trigolion lleol a chymudwyr, a’r
  • Bont Gradd II restredig.
Bu i ni ymgysylltu’n agos gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol a Chyrff Amgylcheddol Statudol i sefydlu cwmpas yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol a’r Asesiad Rheoliadau Amgylcheddol.  Yna, bu i ni gydlynu’r Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol a’r Asesiad Rheoliadau Amgylcheddol ar y cyd gydag arbenigwyr technegol, y prif ddylunwyr, budd-ddeiliaid amgylcheddol a’r cleientiaid, mewn rhaglen dynn ar gyfer y cymal dylunio amlinellol.  Cwblhawyd arolygon ecolegol gan YGC a’n partneriaid technegol ar adegau addas o’r flwyddyn.
Sefydlwyd grŵp ymgysylltu amgylcheddol, a fu’n cyfarfod ar brydiau allweddol, er mwyn helpu ymdrin â materion amgylcheddol fel rhan o asesiad ailadroddol, rhagweithiol a rhaglen ddylunio amlinellol.  Roedd cydlynu gofynion y cleientiaid, y dylunwyr a’r budd-ddeiliaid yn allweddol i sicrhau bod anghenion yr holl garfannau perthnasol yn cael eu hystyried yn y dyluniad amlinellol.  
Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Mai 2013.  Defnyddiasom ein dealltwriaeth o’r safle a phrofiad blaenorol i roi arweiniad a chefnogaeth i’r cleient drwy gydol y cymal adeiladu a chwblhawyd y gwaith ym mis Gorffennaf 2015.  Derbyniodd y cynllun wobr CEEQUAL ‘Da Iawn’ ym mis Ebrill 2016, hwn oedd Prosiect Trafnidiaeth y Flwyddyn i CIHT, ac enillodd wobr Arloesiad y Flwyddyn yng Ngwobrau ICE Wales, 2106.