(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

A497 Pont Bodefail

Temporary bidge - pont bodfal

Mae pont allweddol yn Llŷn wedi agor, yn benllanw ar bedair blynedd o waith a buddsoddiad o hyd at £3 miliwn oedd yn cynnwys gwelliannau i’r ffordd a gwaith draenio dwr wyneb ac mewn da bryd ar gyfer croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r fro.

 Caewyd yr hen Bont Bodfal – sy’n sefyll ers y 19eg Ganrif ac yn strwythur rhestredig Gradd II – yn Ionawr 2019 yn dilyn storm pan daeth i’r amlwg fod difrod a dirywiad sylweddol wedi bod i’w sylfeini. Yn anffodus, rhaid oedd dargyfeirio traffig wyth milltir i’r Ffôr am gyfnod byr, tra cynhaliwyd gwaith argyfwng i osod pont dros dro a thrwsio’r hen bont.

 Rhoddwyd ystyriaeth i weld os byddai’n bosib lledaenu’r hen bont a’i gwneud yn addas ar gyfer anghenion rhwydwaith traffig heddiw. Ond wedi trafodaethau gyda Cadw a swyddogion cadwraeth, daeth i’r amlwg na fyddai hyn yn bosib a dechreuwyd ar y prosiect hir-dymor o godi pont newydd sbon.

 Mae’r A497 yn ffordd strategol bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan yma o Wynedd, felly mae’n braf cael bod yma ar ddiwrnod cyffrous a hanesyddol. Mae’r bont a’r ffordd newydd yn addas i anghenion modern a bydd yn gweud bywyd yn haws i bobl leol deithio o A i B. Mae’r hen Bont Bodfal wedi ei gwarchod fel ffordd hamdden ar gyfer cerddwyr a beicwyr.