Parcio a Rhannu, Bryn Cegin, Llandegai



Roedd hwn yn gynllun gan Gyngor Gwynedd i ddarparu mwy o gyfleusterau Parcio a Rhannu mewn lleoliadau strategol i liniaru’r risg posib y byddai pobl yn parcio’n anghyfreithlon yn ystod y gwaith o adeiladu pwerdy niwclear Wylfa Newydd. Un o’r safleoedd a ddewiswyd i’w ddatblygu oedd Bryn Cegin, Llys y Gwynt yn Llandygai.
Mae cyfanswm o 178 man parcio i geir yn y dyluniad terfynol, ac mae 12 ohonynt yn fannau parcio i bobl anabl. Datblygwyd y dyluniad i gynnwys:
- 11 man gwefru i geir trydanol
- Gwell llwybr troed i gerddwyr o fewn y safle
- Gwell mynediad a llwybrau troed
- Safle bws a lloches
- Lloches feiciau i 10 beiciwr
- 9 man parcio i feiciau modur
Roedd y cynllun hwn yn cynnwys dewis y lleoliad mwyaf addas ar gyfer cyfleuster parcio a rhannu trwy gynnal dadansoddiad SWOT o wahanol leoliadau a gynigiwyd gan y cleient. Ar ôl dewis lleoliad addas, roedd YGC yn gallu dylunio cyfleuster parcio a rhannu i fodloni gofynion y cleient. Cyn caffael y prosiect, paratôdd YGC yr holl ddogfennau contract perthnasol ar gyfer y cynllun yn ogystal â gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Ar ôl i’r tendrau gael eu dychwelyd, ymgymerodd YGC a’r cleient â’r dasg o asesu tendrau cyn penodi’r contractwr llwyddiannus. Ar ôl penodi’r contractwr llwyddiannus, ymgymerodd YGC â’r dyletswyddau Rheoli Prosiect a Goruchwylio Safle ar ran y cleient gan sicrhau bod y prosiect yn diwallu anghenion y cleient o ran costau, ansawdd ac amser.
Lluniau gan John Kelly Construction Services Ltd