(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Cynllun Lliniaru Atal Llifogydd, Ffordd y Traeth Y Felinheli

Mae perygl llifogydd i dai newydd y marina wedi’i ddylunio rhan fwyaf yn ystod y cam cynllunio, gyda’r tai wedi’u codi’n uwch na’r lefel llifogydd llanwol tybiedig mewn 1,000 o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae eiddo hŷn ar hyd Ffordd y Traeth wedi dioddef llifogydd achlysurol er y rhaglen adfer tir hanesyddol o ganol y 1900au yn ogystal ag ychwanegu wal fôr newydd yn y 1970au. Mae gan bob eiddo ar hyd Ffordd y Traeth olygfeydd tuag at y Fenai ac Ynys Môn, gyda’r llecyn gwelltog rhwng y ffordd a’r culfor yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys maes chwarae, seddi a chynnal Gŵyl y Felinheli bob blwyddyn.

 

Mae Ffordd y Traeth hefyd ar Lwybr Arfordir Cymru yn ogystal â llwybr beicio 8 Sustrans o Gaerdydd i Gaergybi. Fel rhan o Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Arfordirol Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Gwynedd wedi adnabod Ffordd y Traeth fel lleoliad sydd â perygl sylweddol o lifogydd llanwol, gyda disgwyliad i’r perygl gynyddu’n sylweddol yn ystod y ganrif i ddod o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr oherwydd newid hinsawdd.  O’r 65 o gartrefi a busnesau ar hyd Ffordd y Traeth, nodwyd bod 58 mewn perygl llifogydd mewn digwyddiad o lifogydd gyda thebygolrwydd o 0.5% (cyfnod dychwelyd o 1 mewn 200 mlynedd).

 

Roedd y brîff dylunio ar gyfer cynllun i leihau’r perygl llifogydd i Ffordd y Traeth yn nodi, yn ogystal â darparu safon uchel o amddiffyniad i gymaint o eiddo â phosib, bod cadw a gwella harddwch naturiol yr ardal a’r defnydd ohoni fel man amwynder hamdden yn hollbwysig. Felly, roedd angen i’r dewis a ffafriwyd – wal fôr – gyflawni ei swyddogaeth o atal dŵr llanwol rhag mynd i mewn ac ar yr un pryd beidio â thynnu oddi ar harddwch naturiol y lleoliad a sicrhau nad oedd mynediad i’r man hamdden yn cael ei beryglu.

 

I sicrhau fod y gymuned yn ymrwymo i’r cynllun, cynhaliwyd ymgysylltiad cynnar hefo’r gymuned drwy gyfuniad o sesiynau galw-heibio a chylchlythyrau.  Yn seiliedig ar yr adborth gan y gymuned, ystyriwyd ei bod yn bwysig defnyddio defnyddiau lleol yn yr adeiladwaith – gyda’r bwriad o adlewyrchu hanes diwydiannol a morwrol y pentref yn y dyluniad.  Mae’r wal yn defnyddio calchfaen lleol Sir Fôn, gyda chopin llechi lleol; cyfuniad sydd i’w weld yn wal gyfagos y cei.

 

Mae mynediad at y llecyn hamdden gwelltog a’r 2 lithrfa yn cael ei chynnal drwy ddarpariaeth fflodiardau, gan ganiatáu mynediad i 4 lleoliad gwahanol. Mae rhwydwaith o Wardeiniaid Llifogydd y gymuned yn y broses o gael ei sefydlu gyda 14 o wirfoddolwyr wedi rhoi eu henwau ymlaen yn barod.  Gyda chefnogaeth yr Awdurdod Lleol, bydd y Wardeiniaid yn gyfrifol am weithredu’r fflodiardau yn ogystal â materion yn gysylltiedig â llifogydd yn y pentref.