Roedd y cyfleuster EMI presennol angen cyfleusterau ychwanegol o ran uwchraddio’r ystafelloedd gwely yng Ngham 1 i gynnwys en-suites, ac i hwyluso’r gwaith o gysylltu’r coridor yng Ngham 2. Oherwydd topograffi’r safle, crëwyd yr estyniad newydd yng Ngham 2 ar y llawr cyntaf fel rhan o strwythur cantilifrau cyfoes ar bileri. Cafwyd cyswllt agos gyda Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn sicrhau bod y meini prawf dylunio yn cael ei ddiwallu o ran y polisïau cynllunio. Roedd yr estyniad yn cynnwys lolfa gyda chynllun agored gyda chyfleusterau cegin, ystafell feddygol a thoiled hygyrch. Yn ychwanegol, darparwyd ardal falconi eang a diogel o’r lolfa, gyda giât ddiogel i’r ramp allanol sy’n rhoi mynediad i gefn y safle. Ariannwyd y cyfleusterau ychwanegol yng Nghartref Gofal Preswyl Bryn Blodau yn rhannol drwy grant ICF gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y gwaith adeiladu, roedd y cartref gofal a’r Uned EMI yn gallu gweithredu fel yr arfer. Adeiladwyd y strwythur cyfoes o wneuthuriad dur gyda sfs (system ffrâm ddur) ar gyfer y gorchudd allanol. Rhoddwyd pwyslais ar ddull adeiladu modern er mwyn cyflymu’r broses adeiladu er mwyn lleihau’r cyfnod adeiladu.
Cafodd yr adeilad ei orchuddio mewn llarwydden Siberaidd, ffenestri a drysau alwminiwm â chôt o bowdr, a tho fflat sedum. Gosodwyd ffenestr lawn ar y ddau dalcen dramatig ar bob pen er mwyn galluogi i’r preswylwyr fwynhau’r golygfeydd hardd ac er mwyn galluogi i olau dydd ac awyriad naturiol fynd i mewn i’r adeilad i helpu i leihau’r allyriadau carbon. Gosodwyd gwasanaethau trydanol a mecanyddol newydd hefyd, gyda goleuadau newydd, system oleuadau argyfwng Easicheck, system reoli galw nyrsys Medicare, rheiddiaduron, dŵr poeth ac oer. Mae mynediad i’r tu allan wedi cael ei gyfyngu i’r balconi diogel, sydd wedi’i orchuddio gyda gwellt ffug er mwyn galluogi i’r cartref gofal ddefnyddio’r cyfleuster drwy gydol y flwyddyn. Cafodd gwaith tirlunio meddal ei wneud ar weddill y tirlun ac mae’r topograffi gwreiddiol yn parhau er mwyn gwella effaith arnofiol y strwythur newydd.
Mae’r prosiect yn arddangos gallu dyluniad yn y sector iechyd a phreswyl. Roedd gweithrediad llwyddiannus y dyluniad wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer Safonau Gofal Cymru. Mae hyn yn arddangos ein dealltwriaeth a’n harbenigedd yn y sector.