(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

A487 Pont Dyfi Newydd

Group photo of New Dyfi Bridge team
Bydd y prosiect, sydd wedi’i leoli ar yr A487 ger Machynlleth, yn gwella diogelwch y ffordd, yn cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau, yn darparu cyfleoedd teithio llesol ac yn adeiladu gwytnwch rhag llifogydd. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect hefyd yn gwella cysylltedd trafnidiaeth i helpu i ysgogi rhagor o ddatblygiad economaidd yng nghanolbarth Cymru.
Mae’r gwaith yn cynnwys traphont newydd ar draws y gorlifdir a phont afon newydd dros Afon Dyfi, oddeutu 480m i fyny’r afon o’r bont bwa maen gyfredol. Mae’r bont gyfredol o’r 19eg ganrif yn cael ei chau’n aml oherwydd llifogydd, ac mae hyn yn debygol o ddigwydd yn amlach gydag effaith newid hinsawdd.
Mae YGC yn chwarae rhan bwysig trwy gefnogi’r contractwr i gydymffurfio gyda deddfwriaeth amgylcheddol ac ecolegol. Mae gwaith ecolegydd YGC yn sicrhau  bod y contractwr yn cydymffurfio gyda trwyddedau rhywogaethau wedi’i gwarchod a goruchwylio elfennau o’r gwaith i wneud yn siŵr bod y gwaith ddim yn effeithio bywyd gwyllt yr ardal.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun a cynnydd y gwaith ar safle ar gael ar wefan Gymunedol Griffiths.