(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

Priffyrdd a Peirianneg

Mae gwasanaethau’r Adran yn cynnwys:

Cynnal a chadw priffyrdd

Goleuo stryd
Cynnal goleuadau stryd ac arwyddion.

Pontydd a waliau cynnal

Glanhau a gorfodaeth stryd

Glanhau strydoedd, biniau stryd, biniau baw cŵn, Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd, gwaredu slei bach, sbwriel, gorchmynion rheoli cŵn, graffiti ar eiddo’r Cyngor, troseddau amgylcheddol ar y stryd a gorfodaeth gwastraff.

Teledu cylch cyfyng

Asedau bwrdeistrefol
Gwasanaeth profedigaeth/amlosgi, mynwentydd y Cyngor, amlosgfa Bangor, toiledau cyhoeddus, meysydd chwarae a cynnal tiroedd agored y Cyngor.

Rheolaeth fflyd
Rheoli a chynnal holl fflyd y Cyngor.

Tîm categori priffyrdd a bwrdeistrefol

Cadw’r bydd yn lleol, prynu nwyddau, gwasanaethau a gweithiau.

Meysydd Amgylcheddol: Priffyrdd, Fflyd, Peirianneg, Adeiladau

Peirianneg Sifil Gwynedd 

Mae Peirianneg Sifil Gwynedd yn rhan o wasanaeth gwaith stryd Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC Cyngor Gwynedd. Mae gan y gwasanaeth hwn gyfrifoldeb cyffredinol am bob agwedd ar gynnal a chadw priffyrdd o fewn yr Awdurdod ac ar Gontract DBFO yr A55.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn a’r gwasanaethau uchod ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd, gan gynnwys manylion cyswllt a ffurflenni defnyddiol ar gyfer cyflwyno cais am wasanaeth.