
Gwasanaeth cynghori cynhwysfawr ar ddraenio
O fis Awst ymlaen, bydd adran Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd (YGC) yn cynnig gwasanaeth cynghori cynhwysfawr newydd ar ddraenio ar gyfer datblygiadau newydd sydd ag arwynebedd o 100 metr sgwâr neu fwy.
Ers mis Ionawr y llynedd, rhaid i bob datblygiad newydd yng Nghymru sydd o fewn y categori hwn gydymffurfio â’r Safonau Cenedlaethol Draenio Cynaliadwy a dangos bod eu cynlluniau’n bodloni Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr. Mae hyn yn rhoi’r cyfrifoldeb ar y datblygwr i ystyried sut y bydd dŵr yn llifo o’r safle a cheisio cyflwyno atebion amgylcheddol a chynaliadwy i sicrhau hynny.
Am dâl rhesymol, bydd YGC yn rhoi cyngor a chymorth technegol arbenigol manwl ar faterion draenio ar gyfer y datblygiadau mwy hyn o gychwyn y broses. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynlluniau a gaiff eu datblygu wedyn yn llwyr fodloni gofynion y Llywodraeth.
Meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Ymgynghoriaeth Gwynedd:
“O ganlyniad, gall YGC ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr sy’n cynnig cyngor arbenigol ar yr holl ddeddfwriaeth draenio berthnasol i brosiect o’i gychwyn. Heb amheuaeth, bydd y gwasanaeth newydd yma yn helpu datblygwyr i arbed amser ac osgoi addasiadau a allai brofi i fod yn gostus ymhellach ymlaen yn eu prosiect.
“Bydd pob ymgeisydd wrth gwrs yn dal i allu cysylltu â’r Ymgynghoriaeth am gyngor syml fel ar hyn o bryd, ond o fis Awst ymlaen, bydd tâl rhesymol yn cael ei godi i dalu am gost cyngor technegol proffesiynol mwy manwl ar sut i gydymffurfio â’r holl safonau cenedlaethol perthnasol.
“Wrth fuddsoddi yn y gwasanaeth yma, bydd datblygwyr a rheolwyr prosiectau yn gwybod yn union beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i sicrhau bod eu datblygiad yn mynd yn rhwydd trwy’r amrywiol brosesau statudol lle mae materion draenio yn y cwestiwn.
“Yn syml, mae’r gwasanaeth yma’n lleihau’r risg bod datblygiadau’n cael eu gwrthod ar sail materion draenio a bod y cwsmer yn cael cychwyn ar gyfnod adeiladu eu prosiect yn gynt nag y byddai fel arall.”
Mae’r trefniadau newydd ar gyfer Gwynedd yn unol â threfniadau tebyg sydd eisoes ar waith neu sy’n cael eu sefydlu gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Er hyn, mae’r Cyngor wedi penderfynu hefyd y bydd awr gyntaf yr ymgynghori yn ddi-dâl er mwyn helpu unigolion a busnesau llai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Wager:
“Yn ogystal â thai a datblygiadau diwydiannol newydd, bydd datblygiadau mwy, mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd, hefyd yn cynnwys prosiectau cymharol syml fel adeiladau amaethyddol newydd, cyfleusterau storio a thai newydd gyda lonydd mynediad hir atynt.
“Mewn ymdrech i gefnogi’r datblygiadau llai cymhleth hyn sy’n aml yn cael eu cyflwyno ar ran busnesau bach neu unigolion, rydym wedi penderfynu y bydd yr Ymgynghoriaeth yn darparu’r awr gyntaf o bob trafodaeth ymgynghori yn ddi-dâl.
“Fel Cyngor, rydan ni wedi bod yn trafod y newidiadau hyn efo penseiri ac asiantaethau ers peth amser, ac mae pecynnau gwybodaeth manwl wedi cael eu cynhyrchu a fydd yn cael eu dosbarthu i ddatblygwyr dros y misoedd nesaf sy’n arwain at y newidiadau.
“Bydd gwybodaeth yn cael ei rannu hefyd trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Gwynedd a’r Ymgynghoriaeth dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth gan YGC, ebostiwch ccs@gwynedd.llyw.cymru
Nodiadau:
Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd statudol i sefydlu Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (Suds) i oruchwylio materion draenio ar gyfer datblygiadau mwy. Yng Ngwynedd, caiff y dyletswyddau hyn eu cyflawni gan Adran YGC y Cyngor.