(01286) 679426 ygc@gwynedd.llyw.cymru

NEWYDDION A DIGWYDDIADAU

Mae cynllunio rhag llifogydd a rheoli cynlluniau i liniaru llifogydd yn uchel ar agenda’r sector cyhoeddus a’r sector  preifat fel ei gilydd ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda’r Cyngor lleol i ddatblygu dull dadansoddeg weledol newydd i fodelu effaith newid defnydd tir ar hydroleg afonydd. a chynnig golwg manwl ar y sefyllfa.

Aeth ymchwilwyr o Ysgolion y Gwyddorau Naturiol a Chyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor ati ar y cyd ag adran ymgynghorol Cyngor Gwynedd Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC), i ddatblygu dull newydd sy’n gymorth o ran gwneud penderfyniadau, sef y ‘Pecyn Cymorth Newid Defnydd Tir SWAT+‘, i helpu gwella cynlluniau a rheoli cynlluniau i liniaru llifogydd yng Ngwynedd sef y sir lle saif y Brifysgol. Mae potensial i’w gyflwyno ymhellach i ffwrdd hefyd.