Prosiect gwerth £4.4 miliwn gan Gyngor Gwynedd yn Aberdyfi yn sicrhau defnydd o’r cei i’r dyfodol.
Bydd y cynllun – sy’n cael ei ariannu ar y cyd gan Raglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru a Chynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd – yn adnewyddu wal y cei, sydd wedi dirywio dros amser. Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r wal bresennol, gosod wyneb newydd a gwella mynediad i’r môr ac ohono ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Jones, Aelod Cabinet Gwynedd ar gyfer YGC: “Mae’r lanfa yn hollbwysig i ystod eang o weithgareddau’r harbwr sy’n cyfrannu’n sylweddol at economi leol Aberdyfi.
Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn monitro’r sefyllfa’n ofalus dros y blynyddoedd ac er rhoi mesurau ar waith i leihau’r gyfradd cyrydiad, mae’r amser bellach wedi dod i wal y cei gael ei hadnewyddu’n llwyr. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn cael ei gwblhau ac rwy’n hyderus y bydd yn dod â hwb i’r gymuned leol yn Aberdyfi.”


Ychwanegodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James: “Wrth i ni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rwy’n falch o fod yn darparu 85 y cant o’r cyllid ar gyfer y gwaith hwn i Gyngor Gwynedd drwy ein Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol.
Rhaid i gymunedau arfordirol addasu i lefel y môr yn codi a bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud yn union hynny, drwy wella’r amddiffyniad rhag llifogydd ac erydu arfordirol i 20 eiddo yn Aberdyfi. Bydd y gwaith hefyd yn darparu buddion ehangach trwy warchod y lanfa, sydd, rwy’n gwybod, yn hollbwysig i’r economi leol.”
Yn ystod y cyfnod adeiladu bydd angen cyfyngu mynediad i’r lanfa a’r ardaloedd cyfagos gan gynnwys rhai o’r maes parcio cyfagos. Bydd mynediad wedi’i nodi’n glir ar y safle.
